CLA444 - Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 2014
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth i orfodi, yng Nghymru, ddarpariaethau penodol yn Rheoliad (EU) Rhif 1169/2011 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch darparu gwybodaeth am fwyd i ddefnyddwyr, sy’n diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 1924/2006 ac (EC) Rhif 1925/2006 Senedd Ewrop a’r Cyngor, ac yn diddymu Cyfarwyddeb y Comisiwn 87/250/EEC, Cyfarwyddeb y Cyngor 90/496/EEC, Cyfarwyddeb y Comisiwn 1999/10/EC, Cyfarwyddeb 2000/13/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor, Cyfarwyddebau’r Comisiwn 2002/67/EC a 2008/5/EC a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 608/2004 (OJ Rhif L 304, 22.11.2011, t 18).
Maent hefyd yn gweithredu, yng Nghymru, ddarpariaethau penodol yn Erthygl 6 o Gyfarwyddeb 1999/2/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch cyd-ddynesiad cyfreithiau’r Aelod-wladwriaethau ar fwydydd a chynhwysion bwydydd sydd wedi eu trin ag ymbelydredd ïoneiddio (OJ Rhif L 66, 13.3.1999, t 16) ac ail baragraff is-baragraff 1 o Erthygl 3 o Gyfarwyddeb 2000/36/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch cynhyrchion coco a siocled a fwriedir i bobl eu bwyta (OJ Rhif L 197, 3.8.2000, t 19).
Gweithdrefn: Negyddol
Materion technegol: craffu
Nodwyd y pwyntiau canlynol i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.
Mae testun Saesneg rheoliad 1(5) yn pennu 13 Rhagfyr 2016 fel y dyddiad y bydd darpariaethau penodol yn dod i rym, tra bod y testun Cymraeg yn cyfeirio at 13 Gorffennaf y flwyddyn honno. Mae’r rhestr ‘Cynnwys’ a’r pennawd uwchben Rhan 3 o Atodlen 5 (y mae rheoliad 1(5) yn gymwys iddi) yn y ddwy iaith yn ei gwneud yn glir mai’r dyddiad yn nhestun Saesneg y rheoliad sy’n gywir. Bydd angen felly cywiro’r fersiwn Gymraeg cyn 13 Gorffennaf 2016.
[Rheol Sefydlog 21.2(vii) – anghysondebau rhwng testunau Cymraeg a Saesneg]
Rhinweddau: craffu
Ni nodwyd pwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Medi 2014